Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 28:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Dafydd yn galw swyddogion Israel i gyd at ei gilydd i Jerwsalem – arweinwyr y llwythau, swyddogion unedau'r fyddin, capteiniaid unedau o fil ac o gant, y swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo ac anifeiliaid y brenin a'i feibion, swyddogion y palas, y milwyr, a'r arwyr milwrol i gyd.

2. Dyma'r Brenin Dafydd yn codi ar ei draed a dweud: “Fy mrodyr a'm pobl, gwrandwch. Roeddwn i wir eisiau adeiladu teml lle gellid gosod Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD fel stôl droed i'n Duw. Dw i wedi gwneud y paratoadau ar gyfer ei hadeiladu.

3. Ond dyma Duw yn dweud wrtho i, ‘Gei di ddim adeiladu teml i'm hanrhydeddu i, am dy fod ti'n ryfelwr, ac wedi lladd lot o bobl.’

4. “Yr ARGLWYDD, Duw Israel, ddewisodd fi o deulu fy nhad i fod yn frenin ar Israel am byth. Roedd wedi dewis llwyth Jwda i arwain, a teulu fy nhad o fewn Jwda, ac yna dewisodd fi o blith fy mrodyr, a'm gwneud i yn frenin ar Israel gyfan.

5. Ac o'r holl feibion mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi, mae wedi dewis Solomon i fod yn frenin ar fy ôl, i deyrnasu ar ei ran.

6. Dwedodd wrtho i, ‘Dy fab Solomon ydy'r un fydd yn adeiladu teml i mi, a'r iardiau o'i chwmpas. Dw i wedi ei ddewis e i fod yn fab i mi, a bydda i'n dad iddo fe.

7. Bydda i'n sefydlu ei deyrnas am byth, os bydd e'n dal ati i gadw fy ngorchmynion a'm rheolau i, fel rwyt ti'n gwneud.’

8. Felly, o flaen Israel gyfan, cynulliad pobl yr ARGLWYDD, a Duw ei hun yn dyst, dw i'n dweud: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, i chi feddiannu'r wlad dda yma, a'i gadael hi'n etifeddiaeth i'ch plant am byth.

9. “A tithau, Solomon fy mab, gwna'n siŵr dy fod yn nabod Duw dy dad. Rho dy hun yn llwyr i'w addoli a'i wasanaethu yn frwd. Mae'r ARGLWYDD yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl pawb, ac yn gwybod pam maen nhw'n gwneud pethau. Os byddi di'n ceisio'r ARGLWYDD go iawn, bydd e'n gadael i ti ddod o hyd iddo. Ond os byddi di'n troi cefn arno, bydd e'n dy wrthod di am byth.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 28