4. Mis 2 – Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a'i adran o 24,000.
5. Mis 3 – Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada'r offeiriad, a'i adran o 24,000.
6. (Dyma'r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.)
7. Mis 4 – Asahel, brawd Joab, (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu) a'i adran o 24,000.
8. Mis 5 – Shamhwth o glan Israch a'i adran o 24,000.