Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 27:23-34 beibl.net 2015 (BNET)

23. Wnaeth Dafydd ddim cyfrif y bechgyn dan ugain oed. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo gwneud pobl Israel mor niferus a'r sêr yn yr awyr.

24. Roedd Joab fab Serwia wedi dechrau cyfrif y dynion, ond wnaeth e ddim gorffen. Roedd Duw yn ddig gydag Israel am y peth, felly wnaeth y nifer ddim cael ei gofnodi yn y sgrôl, Hanes y Brenin Dafydd.

25. Asmafeth fab Adiel oedd yn gyfrifol am stordai'r brenin;Jonathan fab Wseia yn gyfrifol am y stordai brenhinol yn y trefi, pentrefi a'r caerau yn Israel;

26. Esri fab Celwb yn gyfrifol am y gweithwyr amaethyddol;

27. Shimei o Rama yn gyfrifol am y gwinllannoedd;Sabdi o Sheffam yn gyfrifol am y gwin oedd yn cael ei storio yn y gwinllannoedd;

28. Baal-chanan o Geder yn gyfrifol am y coed olewydd a'r coed sycamorwydd ar yr iseldir;Ioash oedd yn gyfrifol am y stordai i gadw olew olewydd;

29. Sitrai o Saron oedd yn gyfrifol am y gwartheg oedd yn pori yn Saron;Shaffat fab Adlai oedd yn gyfrifol am y gwartheg yn y dyffrynnoedd.

30. Obil yr Ismaeliad yn gyfrifol am y camelod;Iechdeia o Meronoth yn gyfrifol am yr asennod;

31. Iasis yr Hageriad yn gyfrifol am y defaid a'r geifr.Roedd pob un o'r rhain yn swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo y brenin Dafydd.

32. Roedd Jonathan, ewythr Dafydd, yn strategydd doeth ac yn ysgrifennydd;Iechiel fab Hachmoni yn gofalu am feibion y brenin;

33. Achitoffel oedd swyddog strategaeth y brenin;Roedd Chwshai'r Arciad yn ffrind agos i'r brenin.

34. Jehoiada fab Benaia ac Abiathar wnaeth olynu Achitoffel.Joab oedd pennaeth byddin y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 27