Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 27:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma restr o benaethiaid teuluoedd Israel oedd yn gapteiniaid yn y fyddin (ar unedau o fil ac o gant), a'r swyddogion oedd yn gwasanaethu'r brenin mewn gwahanol ffyrdd. Roedd pob adran yn gwasanaethu am un mis y flwyddyn, ac roedd 24,000 o ddynion ym mhob adran.

2. Mis 1 – Iashofam fab Safdiel a'i adran o 24,000.

3. (Roedd yn un o ddisgynyddion Perets ac yn bennaeth ar swyddogion y fyddin i gyd yn y mis cyntaf.)

4. Mis 2 – Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a'i adran o 24,000.

5. Mis 3 – Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada'r offeiriad, a'i adran o 24,000.

6. (Dyma'r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.)

7. Mis 4 – Asahel, brawd Joab, (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu) a'i adran o 24,000.

8. Mis 5 – Shamhwth o glan Israch a'i adran o 24,000.

9. Mis 6 – Ira fab Iccesh o Tecoa, a'i adran o 24,000.

10. Mis 7 – Chelets o Pelon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 27