Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 26:9-23 beibl.net 2015 (BNET)

9. Roedd gan Meshelemeia feibion a perthnasau uchel eu parch – un deg wyth i gyd.

10. Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf – ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo).

11. Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a perthnasau Chosa oedd un deg tri.

12. Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi eu henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml.

13. Dyma'r coelbren yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa giât oedden nhw'n gyfrifol amdani. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried.

14. A dyma sut y cawson nhw eu dewis:Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia;giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth);

15. giât y de i Obed-edom (ei feibion e oedd yn gyfrifol am y stordai);

16. yna giât y gorllewin (a giât Shalecheth oedd ar y ffordd uchaf) i Shwpîm a Chosa.Roedd eu dyletswyddau'n cael eu rhannu'n gyfartal.

17. Bob dydd roedd chwech Lefiad ar ddyletswydd i'r dwyrain, pedwar i'r gogledd a pedwar i'r de. Roedd dau ar ddyletswydd gyda'i gilydd yn y stordai.

18. Wedyn wrth yr iard i'r gorllewin roedd pedwar ar ddyletswydd ar y ffordd a dau yn yr iard.

19. (Y rhain oedd y grwpiau o ofalwyr oedd yn ddisgynyddion i Cora a Merari.)

20. Rhai o'r Lefiaid oedd hefyd yn gyfrifol am stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion yn cael eu cadw.

21. Roedd disgynyddion Ladan (oedd yn ddisgynyddion i Gershon drwy Ladan, ac yn arweinwyr eu clan) yn cynnwys Iechieli,

22. meibion Iechieli, Setham, a'i frawd Joel. Nhw oedd yn gyfrifol am stordai teml Dduw.

23. Wedyn dyma'r arweinwyr oedd yn ddisgynyddion i Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 26