9. Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran – tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan.
10. Meibion Shimei: Iachath, Sina, Iewsh, a Bereia. Dyma feibion Shimei – pedwar.
11. Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw'n cael eu cyfrif fel un teulu.
12. Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel – pedwar.
13. Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i ddisgynyddion eu dewis i fod bob amser yn gyfrifol am yr offer cysegredig, i offrymu aberthau o flaen yr ARGLWYDD, ei wasanaethu a'i addoli.
14. Roedd meibion Moses, dyn Duw, yn cael eu cyfrif yn rhan o lwyth Lefi.
15. Meibion Moses: Gershom ac Elieser
16. Disgynyddion Gershom: Shefwel oedd yr hynaf.
17. Disgynyddion Elieser: Rechafia oedd yr hynaf. (Doedd gan Elieser ddim mwy o feibion, ond cafodd Rechafia lot fawr o feibion).
18. Meibion Its'har: Shlomith oedd yr hynaf.
19. Meibion Hebron: Ierïa oedd yr hynaf, Amareia yn ail, Iachsiel yn drydydd, ac Icameam yn bedwerydd.
20. Meibion Wssiel: Micha oedd yr hynaf, ac Ishïa yn ail.
21. Meibion Merari: Machli a Mwshi.Meibion Machli: Eleasar a Cish.
22. (Bu Eleasar farw heb gael meibion, dim ond merched. A dyma eu cefndryd, meibion Cish, yn eu priodi nhw)
23. Meibion Mwshi: Machli, Eder, ac Ieremoth – tri.
24. Dyma ddisgynyddion Lefi yn ôl eu claniau – pob un wedi cael ei restru wrth ei enw o dan enw ei benteulu. Roedd pob un oedd dros ddau ddeg mlwydd oed i wasanaethu yr ARGLWYDD yn y deml.
25. Roedd Dafydd wedi dweud fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi heddwch i'w bobl, ac wedi dod i aros yn Jerwsalem am byth.