Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 23:30-32 beibl.net 2015 (BNET)

30. Roedden nhw i fod yn bresennol bob bore i ddiolch i'r ARGLWYDD a chanu mawl iddo. Hefyd bob gyda'r nos,

31. a pan oedd aberth yn cael ei losgi ar y Saboth, yn fisol ar Ŵyl y lleuad newydd, ac ar y gwyliau crefyddol eraill. Roedd yn rhaid i'r nifer cywir ohonyn nhw fod yn bresennol bob tro.

32. Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am Babell Presenoldeb Duw a'r cysegr sanctaidd. Roedden nhw'n helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 23