1. Pan oedd Dafydd wedi mynd yn hen ac yn dod i ddiwedd ei oes, dyma fe'n gwneud ei fab Solomon yn frenin ar Israel.
2. Yna dyma fe'n galw holl arweinwyr Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd.
3. Cafodd y Lefiaid oedd yn dri deg oed neu'n hŷn eu cyfrif, ac roedd yna 38,000 ohonyn nhw.
4. A dyma Dafydd yn dweud, “Mae 24,000 i fod i arolygu gwaith Teml yr ARGLWYDD; 6,000 i fod yn swyddogion ac yn farnwyr;
5. 4,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio'r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i'r ARGLWYDD gyda'r offerynnau cerdd dw i wedi eu darparu ar gyfer yr addoliad.”
6. A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw'n grwpiau wedi eu henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
7. Dau fab Gershon oedd Ladan a Shimei.
8. Meibion Ladan: Iechiel yr hynaf, Setham, a Joel – tri.
9. Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran – tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan.
10. Meibion Shimei: Iachath, Sina, Iewsh, a Bereia. Dyma feibion Shimei – pedwar.
11. Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw'n cael eu cyfrif fel un teulu.
12. Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel – pedwar.