Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 22:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Dafydd yn dweud, “Dyma'r safle lle bydd teml yr ARGLWYDD Dduw, a'r allor i losgi aberthau dros Israel.”

2. Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i gasglu'r mewnfudwyr oedd yn byw yng ngwlad Israel at ei gilydd. Dyma fe'n penodi seiri maen i baratoi cerrig ar gyfer adeiladu teml Dduw.

3. A dyma fe'n yn casglu lot fawr o haearn i wneud hoelion a colfachau ar gyfer y drysau, a cymaint o efydd, doedd dim posib ei bwyso.

4. Doedd dim posib cyfri'r holl goed cedrwydd ychwaith (roedd pobl Sidon a Tyrus wedi dod â llawer iawn ohonyn nhw iddo.)

5. A dyma Dafydd yn esbonio, “Mae Solomon, fy mab, yn ifanc ac yn ddibrofiad. Mae'n rhaid i'r deml fydd yn cael ei hadeiladu i'r ARGLWYDD fod mor wych, bydd yn enwog ac yn cael ei hedmygu drwy'r byd i gyd. Dyna pam dw i'n paratoi ar ei chyfer.” Felly roedd Dafydd wedi gwneud paratoadau mawr cyn iddo farw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 22