Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 21:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gad, proffwyd Dafydd:

10. “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”

11. Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dewis un o'r rhain –

12. Tair blynedd o newyn, tri mis o gael eich erlid gan eich gelynion a'ch lladd mewn rhyfel, neu dri diwrnod o gael eich taro gan yr ARGLWYDD, pan fydd haint yn lledu trwy'r wlad ac angel yr ARGLWYDD yn lladd pobl drwy dir Israel i gyd.’ Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”

13. Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”

14. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar wlad Israel, a buodd saith deg mil o bobl farw.

15. Dyma Duw yn anfon angel i ddinistrio Jerwsalem. Ond wrth iddo wneud hynny, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed. Dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.)

16. Dyma Dafydd yn gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r awyr a'r cleddyf yn ei law yn pwyntio at Jerwsalem. A dyma Dafydd a'r arweinwyr, oedd yn gwisgo sachliain, yn plygu a'u hwynebau ar lawr.

17. A dyma Dafydd yn gweddïo ar Dduw, “Onid fi wnaeth benderfynu cyfri'r milwyr? Fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg ofnadwy yma! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. O ARGLWYDD Dduw, cosba fi a'm teulu, a symud y pla oddi wrth dy bobl.”

18. Felly dyma angel yr ARGLWYDD yn anfon Gad i ddweud wrth Dafydd am fynd i godi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.

19. Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn i Gad ei ddweud ar ei ran.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 21