2. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab ac arweinwyr ei fyddin, “Dw i eisiau i chi gyfri faint o filwyr sydd yn Israel, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Yna adrodd yn ôl i mi gael gwybod faint ohonyn nhw sydd.”
3. Ond dyma Joab yn ei ateb, “O na fyddai'r ARGLWYDD yn gwneud y fyddin ganwaith yn fwy! Ond fy mrenin, syr, ydyn nhw ddim i gyd yn gwasanaethu fy meistr? Pam wyt ti eisiau gwneud y fath beth? Pam gwneud Israel yn euog?”
4. Ond y brenin gafodd ei ffordd, a dyma Joab yn teithio drwy Israel i gyd, cyn dod yn ôl i Jerwsalem.
5. Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i Dafydd. Roedd yna un pwynt un miliwn o ddynion Israel allai ymladd yn y fyddin – pedwar cant saith deg mil yn Jwda yn unig.
6. Wnaeth Joab ddim cyfri llwythau Lefi a Benjamin, am ei fod yn anhapus iawn gyda gorchymyn y brenin.
7. Roedd y peth wedi digio Duw hefyd, felly dyma fe'n cosbi Israel.
8. Dyma Dafydd yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”
9. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gad, proffwyd Dafydd:
10. “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”