49. Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
50. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb:Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearim),
51. Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).
52. Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearim, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid,
53. llwythau Ciriath-iearim – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.)