44. Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.Recem oedd tad Shammai.
45. Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.
46. Dyma Effa, partner Caleb, yn geni Haran, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.
47. Meibion Iahdai:Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.
48. Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana.
49. Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
50. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb:Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearim),
51. Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).
52. Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearim, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid,
53. llwythau Ciriath-iearim – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.)
54. Disgynyddion Salma:pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid,
55. a teuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Jabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a'r Swchathiaid. Y rhain ydy'r Ceneaid, sy'n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab.