Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 19:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro.

8. Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.

9. Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau eu hunain ar dir agored.

10. Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.

11. A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.

12. “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi.

13. Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud fel mae'n gweld yn dda.”

14. Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw.

15. Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai, ei frawd, a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn mynd yn ôl i Jerwsalem.

16. Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n anfon am fwy o filwyr. A dyma'r Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates yn dod. Shoffach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.

17. Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. A dyma Dafydd yn gosod ei fyddin yn rhengoedd i wynebu y Syriaid, ac yn dechrau ymladd yn eu herbyn.

18. Dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith mil o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Lladdodd Shoffach, cadfridog byddin y Syriaid, hefyd.

19. Pan welodd milwyr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch â Dafydd, a dod o dan ei awdurdod. Felly, doedd y Syriaid ddim yn fodlon helpu'r Ammoniaid eto.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 19