Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 19:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Beth amser wedyn dyma Nachash, brenin yr Ammoniaid, yn marw, a'i fab yn dod yn frenin yn ei le.

2. Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo ag e ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon i gydymdeimlo â Chanŵn,

3. dyma swyddogion y wlad yn dweud wrtho, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg fod ei weision wedi dod atat ti i ysbïo ac archwilio'r wlad!”

4. Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a'i siafio nhw, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre.

5. Dyma negeswyr yn dod a dweud wrth Dafydd beth oedd wedi digwydd, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto.

6. Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma Chanŵn a pobl Ammon yn anfon 34,000 cilogram o arian i logi cerbydau a marchogion gan Aram-naharaim, Aram-maacha a Soba.

7. Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro.

8. Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.

9. Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau eu hunain ar dir agored.

10. Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.

11. A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.

12. “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 19