Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:7-14 beibl.net 2015 (BNET)

7. “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.

8. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog go iawn drwy'r byd i gyd.

9. Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen,

10. pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i'n mynd i drechu dy elynion di. Dw i'n dweud fod yr ARGLWYDD yn mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!

11. Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,bydda i'n codi un o dy linach di yn dy le – mab i ti.A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.

12. Bydd e yn adeiladu teml i mi,A bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.

13. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe,yn wahanol i'r un o dy flaen di.

14. Bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17