3. Ond y noson honno dyma Duw yn dweud wrth Nathan,
4. “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dwyt ti ddim yn mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi.
5. Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o babell i babell.
6. Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r arweinwyr oedd yn gofalu am bobl Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’
7. “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.