Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:22-27 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.

23. Felly, ARGLWYDD, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel ti wedi addo.

24. Wedyn byddi'n sicr yn enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig,

25. am dy fod ti, Dduw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo arnat ti.

26. Nawr, ARGLWYDD, ti ydy'r Duw go iawn. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i dy was.

27. Felly, bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth. ARGLWYDD, rwyt wedi ei bendithio, a bydd dy fendith yn aros am byth.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17