Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:13-27 beibl.net 2015 (BNET)

13. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe,yn wahanol i'r un o dy flaen di.

14. Bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’”

15. Dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.

16. A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “O ARGLWYDD Dduw, pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!

17. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti'n delio gyda mi fel petawn i'n rhywun pwysig, o ARGLWYDD Dduw.

18. Beth alla i ddweud? Ti wedi rhoi anrhydedd i dy was, ac yn gwybod sut un ydw i.

19. ARGLWYDD, am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma i ddangos mor fawr wyt ti.

20. “ARGLWYDD, does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti!

21. A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear. Aeth Duw i'w gollwng yn rhydd, a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.

22. “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.

23. Felly, ARGLWYDD, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel ti wedi addo.

24. Wedyn byddi'n sicr yn enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig,

25. am dy fod ti, Dduw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo arnat ti.

26. Nawr, ARGLWYDD, ti ydy'r Duw go iawn. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i dy was.

27. Felly, bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth. ARGLWYDD, rwyt wedi ei bendithio, a bydd dy fendith yn aros am byth.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17