Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i'n mynd i drechu dy elynion di. Dw i'n dweud fod yr ARGLWYDD yn mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!

11. Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,bydda i'n codi un o dy linach di yn dy le – mab i ti.A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.

12. Bydd e yn adeiladu teml i mi,A bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.

13. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe,yn wahanol i'r un o dy flaen di.

14. Bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’”

15. Dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.

16. A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “O ARGLWYDD Dduw, pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!

17. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti'n delio gyda mi fel petawn i'n rhywun pwysig, o ARGLWYDD Dduw.

18. Beth alla i ddweud? Ti wedi rhoi anrhydedd i dy was, ac yn gwybod sut un ydw i.

19. ARGLWYDD, am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma i ddangos mor fawr wyt ti.

20. “ARGLWYDD, does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17