6. a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw.
7. Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd, i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch:
8. Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.
9. Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
10. Broliwch ei enw sanctaidd!Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.
11. Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;ceisiwch ei gwmni bob amser.
12. Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu!
13. Ie, chi blant ei was Israel;plant Jacob mae wedi eu dewis.
14. Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e;yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.