Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 16:30-41 beibl.net 2015 (BNET)

30. Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.

31. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!Dwedwch ymysg y cenhedloedd,“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”

32. Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!

33. Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llaweno flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod –mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!

34. Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

35. Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr!Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd!Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd,ac yn brolio'r cwbl wyt ti wedi ei wneud.”

36. Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel,o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!A dyma'r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”

37. Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd.

38. Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau.

39. (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon.

40. Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Israel.)

41. Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi eu dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!)

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 16