21. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
22. “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i;peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
23. Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
24. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
25. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli!Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
26. Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!
27. Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.
28. Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
29. Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!Dewch o'i flaen i gyflwyno rhodd iddo!Plygwch i addoli'r ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr!
30. Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.
31. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!Dwedwch ymysg y cenhedloedd,“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”
32. Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!
33. Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llaweno flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod –mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!