Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 13:3-14 beibl.net 2015 (BNET)

3. Gadewch i ni symud Arch ein Duw yn ôl yma. Wnaethon ni ddim gofyn am ei arweiniad o gwbl pan oedd Saul yn frenin.”

4. A dyma'r gynulleidfa'n cytuno. Roedd pawb yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud.

5. Felly dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd – o Afon Shichor yn yr Aifft i Lebo-chamath, er mwyn symud Arch Duw yno o Ciriath-iearim.

6. Dyma Dafydd a pobl Israel i gyd yn mynd i Baäla (sef Ciriath-iearim) yn Jwda, i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.

7. Dyma nhw'n gosod yr Arch ar gert newydd, a'i symud hi o dŷ Abinadab, gydag Wssa ac Achïo yn arwain y cert.

8. Roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen Duw, a canu i gyfeiliant telynau a nablau, tambwrinau, symbalau ac utgyrn.

9. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Cidon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law i afael yn yr Arch.

10. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe'n ei daro'n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a'r lle o flaen Duw.

11. Roedd Dafydd wedi digio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛y ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.

12. Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai.

13. Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â'r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.

14. Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn y tŷ gyda teulu Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio teulu Obed-edom a popeth oedd ganddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 13