Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 12:26-40 beibl.net 2015 (BNET)

26. O lwyth Lefi – 4,600.

27. Daeth Jehoiada (arweinydd disgynyddion Aaron) a 3,700 o ddynion,

28. a Sadoc, milwr ifanc, a 22 arweinydd o'i glan.

29. O lwyth Benjamin (sef y llwyth roedd Saul yn perthyn iddo) – 3,000. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw, cyn hynny, wedi bod yn deyrngar i Saul.

30. O lwyth Effraim – 20,800 o filwyr, pob un yn enwog yn ei glan ei hun.

31. O hanner llwyth Manasse – 18,000 wedi cael eu dewis i ddod i wneud Dafydd yn frenin.

32. O lwyth Issachar – 200 o gapteiniaid a'u perthnasau i gyd oddi tanyn nhw. Roedden nhw'n deall arwyddion yr amserau, ac yn gwybod beth oedd y peth gorau i Israel ei wneud.

33. O lwyth Sabulon – 50,000 o filwyr arfog yn barod i'r frwydr ac yn hollol deyrngar i Dafydd.

34. O lwyth Nafftali – 1,000 o swyddogion a 37,000 o filwyr yn cario tarianau a gwaywffyn.

35. O lwyth Dan – 28,600 o ddynion yn barod i ymladd.

36. O lwyth Asher – 40,000 o filwyr yn barod i ymladd.

37. O'r ochr draw i'r Afon Iorddonen (llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse) – 120,000 o ddynion yn cario pob math o arfau.

38. Roedd y dynion yma i gyd yn barod i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi dod i Hebron i wneud Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Ac roedd gweddill pobl Israel yn cytuno mai Dafydd ddylai fod yn frenin.

39. Buon nhw yno yn gwledda gyda Dafydd am dri diwrnod. Roedd eu perthnasau wedi darparu bwydydd iddyn nhw.

40. Hefyd roedd pobl eraill, o mor bell ag Issachar, Sabulon a Nafftali, yn dod â bwyd iddyn nhw ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Roedd yno lwythi enfawr o flawd, cacennau ffigys, sypiau o rhesins, gwin, olew olewydd, cig eidion a chig oen. Roedd Israel yn dathlu!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 12