Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 12:10-21 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mishmanna, Jeremeia,

11. Attai, Eliel,

12. Iochanan, Elsabad

13. Jeremeia, a Machbanai.

14. Nhw oedd y capteniaid o lwyth Gad. Roedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonyn nhw a dros fil o dan y mwyaf.

15. Dyma'r rhai oedd wedi croesi'r Iorddonen yn ystod y mis cyntaf, pan oedd hi wedi gorlifo ei glannau i gyd. Roedden nhw wedi gwneud i bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ffoi o'u blaenau.

16. Dyma rai o lwyth Benjamin a llwyth Jwda hefyd, yn dod i'r gaer at Dafydd.

17. Dyma Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw, a dweud, “Os ydych wedi dod yn heddychlon i fy helpu i, yna dw i'n barod i ymuno â chi. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i'm gelynion, yna bydd Duw ein hynafiaid yn gweld hynny ac yn eich cosbi. Dw i wedi gwneud dim o'i le i chi.”

18. A dyma ysbryd yn dod ar Amasai, pennaeth y tri deg, a dyma fe'n canu:“Dŷn ni gyda ti Dafydd!Ar dy ochr di fab Jesse!Heddwch a llwyddiant i ti.A heddwch i'r rhai sy'n dy helpu.Yn wir, mae dy Dduw yn dy helpu.”Felly dyma Dafydd yn eu derbyn nhw ac yn eu gwneud yn gapteiniaid ar griwiau ymosod.

19. Roedd rhai o lwyth Manasse wedi dod drosodd at Dafydd pan aeth gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond wnaethon nhw ddim helpu'r Philistiaid achos, ar ôl trafod, dyma arweinwyr y Philistiaid yn eu hanfon i ffwrdd. Roedden nhw'n wedi trafod â'i gilydd a dweud, “Petai e'n mynd drosodd at ei feistr, Saul, bydden ni'n cael ein lladd!”

20. Pan oedd Dafydd ar ei ffordd i Siclag, dyma'r dynion yma o lwyth Manasse yn ymuno gydag e: Adnach, Iosafad, Iediael, Michael, Josabad, Elihw a Silthai. Roedden nhw i gyd yn gapteiniaid ar unedau o fil yn Manasse.

21. Buon nhw'n help mawr i Dafydd pan oedd criwiau o filwyr yn ymosod, am eu bod yn filwyr dewr ac yn gapteiniaid yn y fyddin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 12