Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 11:8-25 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y waliau allanol. A dyma Joab yn ailadeiladu gweddill y ddinas.

9. Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD holl-bwerus gydag e.

10. Dyma arweinwyr byddin Dafydd wnaeth helpu i sefydlu ei deyrnas fel brenin Israel gyfan, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.

11. Dyma restr o'i filwyr dewr:Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth y swyddogion. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.

12. Yna nesa ato fe roedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach, un o'r ‛Tri Dewr‛.

13. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Wrth ymyl cae oedd yn llawn o haidd, roedd y fyddin wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid.

14. Ond yna dyma nhw'n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw'n ei amddiffyn ac yn taro'r Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw.

15. Dyma dri o'r tri deg arweinydd yn mynd i lawr at Dafydd at y graig sydd wrth ymyl Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.

16. Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif garsiwn milwrol y Philistiaid yn Bethlehem.

17. Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”

18. Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD,

19. a dweud, “O Dduw, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed am fod y dynion wedi mentro eu bywydau i'w nôl. Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.

20. Abishai, brawd Joab, oedd pennaeth y ‛Tri dewr‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd yn enwog fel y Tri.

21. I ddweud y gwir roedd e'n fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e'i hun ddim yn un o'r ‛Tri‛.

22. Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël, yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.

23. Roedd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.

24. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.

25. Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 11