Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 1:45-52 beibl.net 2015 (BNET)

45. Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.

46. Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)

47. Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.

48. Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin.

49. Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.

50. Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).

51. Yna dyma Hadad yn marw.A dyma enwau arweinwyr Edom:Timna, Alfa, Ietheth,

52. Oholibama, Ela, Pinon,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 1