39. Meibion Lotan:Chori, a Homam (A Timna oedd chwaer Lotan.)
40. Meibion Shofal:Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.Meibion Sibeon:Aia, ac Ana.
41. Mab Ana:Dishon.Meibion Dishon:Hemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
42. Meibion Etser:Bilhan, Saafan, a Iacân.Meibion Dishan:Us ac Aran.
43. Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.
44. Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.
45. Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.
46. Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)
47. Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.
48. Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin.
49. Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.
50. Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).
51. Yna dyma Hadad yn marw.A dyma enwau arweinwyr Edom:Timna, Alfa, Ietheth,