1. Adda, Seth, Enosh,
2. Cenan, Mahalal-el, Iered,
3. Enoch, Methwsela, Lamech,
4. Noa, Shem, Cham, a Jaffeth.
5. Meibion Jaffeth:Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
6. Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
7. Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Rhodos.
8. Meibion Cham:Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
9. Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha.Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
10. Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod: y concwerwr cyntaf ar y ddaear.
11. Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid,
12. Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.
13. Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), a'r Hethiaid,
14. y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid,
15. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,
16. Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath.
17. Meibion Shem:Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech.
18. Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber.
19. Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Enw ei frawd oedd Ioctan.