Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 9:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a popeth arall roedd wedi bod eisiau ei wneud.

2. A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon am yr ail dro, fel roedd wedi gwneud yn Gibeon.

3. A dyma fe'n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a'r cwbl roeddet ti'n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru'r deml yma rwyt ti wedi ei hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser.

4. Dw i eisiau i ti fyw yn onest ac yn deg fel dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi.

5. Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu ar Israel am byth. Dyna wnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd ar orsedd Israel am byth.’

6. Ond os byddi di neu dy blant yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,

7. yna bydda i yn gyrru Israel allan o'r wlad dw i wedi ei rhoi iddyn nhw. A bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. Ac wedyn bydd Israel yn destun sbort ac yn jôc i bawb.

8. Bydd y deml yma yn bentwr o gerrig. Bydd pawb sy'n mynd heibio yn chwibanu mewn rhyfeddod ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’

9. A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD eu Duw, yr un ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”

10. Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau codi'r ddau adeilad – teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol.

11. A dyma'r brenin Solomon yn cynnig dau ddeg o bentrefi yn Galilea i Hiram, brenin Tyrus, am fod Hiram wedi rhoi iddo goed cedrwydd a choed pinwydd a hynny o aur oedd Solomon eisiau.

12. Ond pan aeth Hiram i weld y trefi roedd Solomon wedi eu rhoi iddo, doedd e ddim yn hapus.

13. Dyma fe'n dweud, “Beth ydy'r trefi diwerth yma wyt ti wedi eu rhoi i mi, frawd?” A dyma fe'n galw'r ardal yn Wlad Cabwl – sef ‛da i ddim‛. A dyna mae'r ardal yn cael ei galw hyd heddiw.

14. Dim ond pum mil cilogram o aur roddodd Hiram i Solomon amdanyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 9