Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 8:48-59 beibl.net 2015 (BNET)

48. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yng ngwlad y gelyn lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti.

49. Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw.

50. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi eu concro nhw eu trin nhw'n garedig.

51. Wedi'r cwbl, dy bobl sbesial di ydyn nhw, am mai ti ddaeth â nhw allan o'r Aifft, allan o'r ffwrnais haearn.

52. Gwranda ar fy ngweddi, ac ar dy bobl Israel pan maen nhw'n gofyn am help. Ateb nhw bob tro maen nhw'n galw arnat ti.

53. Achos rwyt ti wedi eu dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti trwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, ARGLWYDD.”

54. Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r ARGLWYDD, dyma fe'n codi ar ei draed. Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr ARGLWYDD a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd.

55. Dyma fe'n sefyll a bendithio holl bobl Israel â llais uchel:

56. “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e trwy Moses ei was.

57. Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni.

58. Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid.

59. Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 8