Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 7:45-51 beibl.net 2015 (BNET)

45. a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a powlenni taenellu.Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.

46. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen.

47. Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.

48. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD,

49. y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a pump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi eu gwneud o aur.

50. Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi eu gwneud o aur hefyd.

51. Wedi i'r Brenin Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 7