42. pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.
43. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
44. y basn anferth oedd yn cael ei alw "Y Môr", gyda'r un deg dau ychen oddi tano,
45. a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a powlenni taenellu.Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.
46. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen.
47. Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.
48. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD,
49. y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a pump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi eu gwneud o aur.
50. Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi eu gwneud o aur hefyd.