40. Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a powlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD.
41. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau,
42. pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.
43. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
44. y basn anferth oedd yn cael ei alw "Y Môr", gyda'r un deg dau ychen oddi tano,
45. a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a powlenni taenellu.Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.
46. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen.
47. Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.
48. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD,