12. O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a cyntedd Teml yr ARGLWYDD.
13. Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram.
14. Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo.
15. Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws.
16. Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi ei gastio, dros ddau fetr o uchder.
17. Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi eu plethu o gwmpas y capiau,
18. a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi eu gorchuddio.
19. Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron ddau fetr o uchder.
20. Ar dop y ddau biler, uwch ben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi eu plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas.
21. Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachin a'r un ar y chwith yn Boas.
22. Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen.
23. Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi ei wneud o bres wedi ei gastio, ac yn cael ei alw "Y Môr". Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch.
24. O gwmpas "Y Môr", o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner.
25. Roedd "Y Môr" wedi ei osod ar gefn un deg dau ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn.
26. Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal bron iawn bedwar deg pum mil litr o ddŵr.