1. Ond roedd palas Solomon wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i'w adeiladu.
2. Galwodd e'n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd.
3. Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes).
4. Ac roedd yna dri set o dair o ffenestri'n wynebu'i gilydd.
5. Roedd fframiau'r drysau a'r ffenestri'n siâp petryal.
6. Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a canopi drosto.
7. Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu'r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi'n gedrwydd i gyd o'r llawr i'r to.
8. Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i'r Neuadd yma, ac wedi ei adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i'w wraig, sef merch y Pharo.
9. Roedd yr adeiladau i gyd wedi eu codi'n gyfan gwbl gyda'r cerrig gorau, oedd wedi eu naddu i'w maint a'u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath.
10. Roedd y sylfeini wedi eu gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner.
11. Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi ei adeiladu gyda'r cerrig gorau, pob un wedi ei naddu i'r maint cywir, a gyda choed cedrwydd.
12. O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a cyntedd Teml yr ARGLWYDD.
13. Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram.