Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 6:6-20 beibl.net 2015 (BNET)

6. Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain.

7. Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu.

8. Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr.

9. Ar ôl gorffen adeiladu'r deml ei hun, dyma nhw'n rhoi to drosti wedi ei wneud o drawstiau a paneli o gedrwydd.

10. Yna codi'r ystafelloedd o'i chwmpas – pob un yn ddau fetr o uchder, gyda trawstiau o goed cedrwydd yn eu dal yn sownd i waliau'r deml ei hun.

11. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon:

12-13. “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i yn cadw'r addewid wnes i dy dad Dafydd. Bydda i yn byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi ei chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.”

14. Felly, dyma Solomon yn gorffen adeiladu'r deml.

15. Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd.

16. Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi ei godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd.

17. Roedd prif neuadd y deml, o flaen y cysegr mewnol, yn un deg wyth metr o hyd.

18. Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi ei gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg.

19. Roedd y gell gysegredig y tu mewn i'r deml ar gyfer Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.

20. Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 6