26. Roedd y ddau yn bedwar metr a hanner o daldra.
27. Dyma Solomon yn rhoi'r ddau geriwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'i hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
28. Roedd y ddau geriwb wedi eu gorchuddio gydag aur.
29. Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi eu cerfio drostyn nhw gyda lluniau o geriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored.
30. Roedd y llawr wedi ei orchuddio gydag aur (yn y brif neuadd a'r cysegr mewnol).
31. Roedd drysau o goed olewydd i fynd i mewn i'r gell fewnol gysegredig. Roedd pyst a lintel y drws yn bumochrog.
32. Roedd y ddau ddrws gyda ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl gyda haen o aur yn ei orchuddio.
33. Roedd pyst y drysau i fynd i mewn i brif neuadd y deml yn sgwâr, a'r rhain hefyd wedi eu gwneud o goed olewydd.
34. Ond roedd y ddau ddrws eu hunain yn goed pinwydd. Roedd y ddau ddrws wedi eu gwneud o ddau ddarn oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd.
35. Roedd ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi ei orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio.
36. Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd.
37. Roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r deml ym Mis Sif, yn ystod pedwaredd flwyddyn Solomon fel brenin.