Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 6:12-13-25 beibl.net 2015 (BNET)

12-13. “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i yn cadw'r addewid wnes i dy dad Dafydd. Bydda i yn byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi ei chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.”

14. Felly, dyma Solomon yn gorffen adeiladu'r deml.

15. Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd.

16. Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi ei godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd.

17. Roedd prif neuadd y deml, o flaen y cysegr mewnol, yn un deg wyth metr o hyd.

18. Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi ei gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg.

19. Roedd y gell gysegredig y tu mewn i'r deml ar gyfer Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.

20. Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath.

21. Roedd tu mewn y deml i gyd wedi ei orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi ei gorchuddio ag aur hefyd.

22. Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig.

23. Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau geriwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra.

24. Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall.

25. Roedd y ddau geriwb yr un maint a'i gilydd, ac roedd siâp y ddau yr un fath.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 6