Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 6:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD yn ystod ei bedwaredd flwyddyn fel brenin, yn yr ail fis, sef Mis Sif. Roedd hi'n bedwar cant wyth deg o flynyddoedd ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.

2. Roedd y deml yn ddau ddeg saith metr o hyd, naw metr o led, ac un deg tri metr a hanner o uchder.

3. Roedd cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd ac yn bedwar metr a hanner o led.

4. Dyma nhw'n gwneud ffenestri latis i'r deml.

5. Yna dyma nhw'n codi estyniad, o gwmpas waliau'r prif adeilad a'r cysegr, gydag ystafelloedd ochr ynddo.

6. Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain.

7. Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu.

8. Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr.

9. Ar ôl gorffen adeiladu'r deml ei hun, dyma nhw'n rhoi to drosti wedi ei wneud o drawstiau a paneli o gedrwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 6