Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:40-53 beibl.net 2015 (BNET)

40. Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.

41. Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd.

42. Roedd Jehosaffat yn dri deg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.

43. Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.

44. Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel.

45. Mae gweddill hanes Jehosaffat, y cwbl wnaeth e lwyddo i'w wneud a'r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

46. Roedd e hefyd wedi gyrru allan o'r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa.

47. Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw.

48. Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw erioed hwylio am eu bod wedi eu dryllio yn y porthladd yn Etsion-geber.

49. Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi gofyn i Jehosaffat, “Gad i'n gweision ni forio gyda'i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod.

50. Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.

51. Roedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Ahaseia mab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin ar Israel am ddwy flynedd.

52. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ymddwyn fel ei dad a'i fam, ac fel Jeroboam fab Nebat oedd wedi achosi i bobl Israel bechu.

53. Roedd yn addoli Baal ac yn ymgrymu iddo. Roedd yn gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn union fel gwnaeth ei dad.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22