Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Yna dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!”

5. Ond yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”

6. Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?”A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!”

7. Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?”

8. A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.”“Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.

9. Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”

10. Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth y giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo.

11. Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’”

12. Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”

13. Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dywed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.”

14. Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud wrtho i.”

15. Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?”A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22