Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:32-43 beibl.net 2015 (BNET)

32. Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi

33. dyma nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo.

34. Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!”

35. Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd.

36. Wrth i'r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i'w dref a'i ardal ei hun.”

37. Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw'n mynd ag e i Samaria, a'i gladdu yno.

38. Dyma nhw'n golchi'r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu'r gwaed, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

39. Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

40. Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.

41. Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd.

42. Roedd Jehosaffat yn dri deg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.

43. Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22