Yna dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth. A dyma nhw'n ei gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw.