Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:34-46 beibl.net 2015 (BNET)

34. Felly dyma Benaia fab Jehoiada yn mynd ac ymosod ar Joab a'i ladd. Cafodd ei gladdu yn ei gartref yng nghefn gwlad.

35. Yna dyma'r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn gapten ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar.

36. Wedyn dyma'r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Dwyt ti ddim i symud oddi yma.

37. Os gwnei di adael a hyd yn oed croesi Nant Cidron byddi'n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.”

38. A dyma Shimei yn dweud “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti'n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn.

39. Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achis fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”.

40. Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision. Yna dyma fe'n dod â nhw'n ôl.

41. Pan glywodd Solomon fod Shimei wedi bod i Gath ac yn ôl,

42. dyma fe'n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti'n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr ARGLWYDD a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan oddi yma o gwbl, neu y byddet ti'n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i'n cytuno i hynny.’

43. Felly, pam wyt ti heb gadw dy addewid i'r ARGLWYDD, ac ufuddhau i'r gorchymyn wnes i roi i ti?”

44. Aeth y brenin yn ei flaen i ddweud wrth Shimei, “Ti'n gwybod yn iawn faint o ddrwg wnest ti i Dafydd, fy nhad. Wel mae'r ARGLWYDD am dy gosbi am dy ddrygioni.

45. Ond bydd yn fy mendithio i, y Brenin Solomon, ac yn gwneud yn siŵr fod teyrnas Dafydd yn aros am byth.”

46. Yna dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i Benaia fab Jehoiada, a dyma fe'n ymosod ar Shimei a'i ladd.Felly roedd Solomon wedi gwneud yn siŵr fod ei afael e ar y deyrnas yn gwbl ddiogel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2