Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Dafydd ar fin marw, dyma fe'n rhoi siars i'w fab Solomon.

2. “Fydda i ddim byw yn hir iawn eto,” meddai. “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn!

3. Gwna beth mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw ei reolau, ei orchmynion, y canllawiau a'r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd raid i ti ei wynebu.

4. A bydd yr ARGLWYDD wedi cadw ei addewid i mi: ‘Os bydd dy ddisgynyddion di yn gwylio eu ffyrdd ac yn gwneud eu gorau glas i fyw'n ffyddlon i mi, yna bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth.’

5. “Ti'n gwybod yn iawn beth wnaeth Joab, mab Serwia, i mi. Sôn ydw i am y ffordd wnaeth e ladd Abner fab Ner ac Amasa fab Jether, dau o arweinwyr byddin Israel. Lladdodd nhw mewn gwaed oer, a hynny mewn cyfnod o heddwch. Gadawodd staen gwaedlyd rhyfel ar y belt am ei ganol a'r sandalau oedd ar ei draed.

6. Gwna di fel rwyt ti'n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw'n dawel yn ei henaint.

7. “Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom.

8. “A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’

9. Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud. Gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.”

10. Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2