Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 19:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly dyma fe'n codi, a bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a cyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD.

9. Dyma fe'n mynd i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yn sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e,“Be wyt ti'n wneud yma, Elias?”

10. A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.

12. Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd distawrwydd llwyr.

13. Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo,“Be wyt ti'n wneud yma Elias?”

14. A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

15. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Dos i eneinio Hasael yn frenin ar Syria.

16. Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd.

17. Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw.

18. A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.”

19. Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda'r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio.

20. A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti!”

21. Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ychen oedd ganddo, a defnyddio'r gêr a'r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta.Yna dyma fe'n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 19