Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 19:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd.

2. Felly dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”

3. Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd i Beersheba yn Jwda. Dyma fe'n gadael ei was yno,

4. a cerdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.”

5. Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.”

6. Edrychodd o'i gwmpas, ac roedd yna fara fflat wedi ei bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto.

7. Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.”

8. Felly dyma fe'n codi, a bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a cyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD.

9. Dyma fe'n mynd i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yn sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e,“Be wyt ti'n wneud yma, Elias?”

10. A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 19