Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:17-29 beibl.net 2015 (BNET)

17. Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?”

18. Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!

19. “Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”

20. Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i fynydd Carmel.

21. Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os mai Baal ydy e, dilynwch hwnnw!”Ddwedodd neb yr un gair.

22. Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy'r unig un sydd ar ôl o broffwydi'r ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma.

23. Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri'n ddarnau, a'i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda'r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano.

24. Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Bydd y duw sy'n anfon tân yn dangos mai fe ydy'r Duw go iawn.”A dyma'r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!”

25. Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a'i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.”

26. Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi ei gael, a'i baratoi, a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi ei gwneud.

27. Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!”

28. A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd.

29. Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18